Croeso i WETWORK - Corlan Adnoddau Arlein Cymraeg
Mae'r wefan hon wedi'i sefydlu er mwyn annog dysgu a defnyddio technolegau cyfredol o fewn meysydd dylunio a datblygu'r we. Byddwn yn ddiolchgar am unrhyw adborth (tudalen negeseuon neu'r fforwm) boed yn bositif neu fel arall. Prif ffocws y wefan yw:
- Canllawiau "Sut i wneud" wedi'u hysgrifennu mewn Cymraeg syml (gobeithio!)
- Cyfieithiadau o sawl rhaglen ffynhonnell-agored, gan gynnwys Oriel Coppermine, Ajax Chat, golygydd Spaw a dilysydd YAV.
- Mae cyfieithiad o WordPress fersiwn 2.7 ar y gweill. Dylai fod yn barod erbyn diwedd Mai 2009. Diolch am eich amynedd.
- Trafodaethau ynglŷn â gwybodaeth a ddengys yma trwy'r fforwm a'r dudalen negeseuon.
D.S. Fy mai i yw unrhyw gwallau o fewn y testun, cyfieithiadau neu'r cod ac felly nid yw'n adlewyrchu ar ansawdd y dechneg neu'r pecyn o dan sylw.
Os ydych am gymorth penodol neu â syniadau am gyfieithiad arbennig, cysylltwch â mi yn ddiymdroi. Os ydych yn edrych am fforwm ffantastig sy'n delio gyda materion adeiladu gwefannau, ewch i daniweb (pwyswch y ddelwedd ar y dde).

