Rydym pob amser yn barod i gyfieithu pecynnau i'r Gymraeg. Os oes pecyn hoffech weld wedi'i gyfieithu neu os ydych am gymorth gyda chyfieithiad, cysylltwch â ni.
| Pecyn | Dolenni | Disgrifiad | Bawdlun |
| YAV | YAV pecyn iaith |
Mae YAV yn becyn sydd yn delio gyda gwirio data o ffurflenni HTML ar yr ochr-gleient gan ddefnyddio javascript. Wrth glicio ar ddolen y pecyn iaith, fe welwch dudalen o javascript. Arbedwch y dudalen fel y mae ac yna gallwch ei rhoi gyda'r pecyn unwaith i chi ei lawrlwytho. | ![]() |
| Spaw2 | Spaw2 pecyn iaith |
Mae Spaw2 yn becyn o'r enw prosesydd WYSIWYG ('What You See Is What You Get') arlein. Mae sawl pecyn tebyg i'w cael, e.e. FCKEditor a TinyMCE, er nid ydynt yn eich galluogi i lwytho ffeiliau (fideo a delweddau mor hawdd â Spaw2). Os ydych yn adeiladu gwefannau i bobl eraill ac eisiau iddynt ddiweddaru tudalennau eu hunain, neu rydych am ddiweddaru tudalennau eich hunain heb angen mynd trwy rigamarol FTP trwy'r amser - gall fod yn ddefnyddiol dros ben. | ![]() |
| Podcast Generator | Podcastgen pecyn iaith |
Mae Podcast Generator yn becyn ofnadwy o hawdd i'w sefydlu os ydych am gyhoeddi ffeiliau XML/RSS ar gyfer 'Feeds', 'Podcast' neu 'Vidcast'. Mae'n rhedeg trwy opsiynau fel cyhoeddi eich ffeiliau ar wefan iTunes (Apple). Mae'n cynnal llwyth o wahanol fformatau. | ![]() |
| Coppermine | Coppermine pecyn iaith |
Mae Coppermine Gallery yn becyn ar gyfer cynhyrchu orielau lluniau a llawer mwy. | ![]() |
Rwyf yn gweithio ar b2evolution, pecyn blogio ar hyn o bryd, gyda chyflawnder cyfieithu o 12% (tua 350 datganiad).
© XHTML, CSS, pHp, MySQL, JS: Alan Davies, Wetwork, 2008