WETWORK

Corlan Adnoddau Arlein Cymraeg


Pecyn Ajax Chat

Mae AC yn becyn sydd yn cynnig ffwythiant sgwrsio i fforymau fel phpBB neu i wefannau. Mae'n integreiddio gyda'ch fforwm yn hawdd iawn.

Pecyn

Gallwch lawrlwytho'r pecyn o fan hyn.

Ffeiliau Iaith

Gallwch ddod o hyd at y ffeiliau iaith o fan hyn.

Arddangosiad

Am arddangosiad, gallwch weld y pecyn yn gweithio o'r fforwm yma.

Canllawiau Arsefydlu

Fersiwn PDF »

  1. Agorwch yr arcif (chat.zip).
  2. Agorwch y ffeil chat/lib/config.php a gwneud unrhyw newidiadau i’r ffurfwedd.
  3. Llwythwch y ffolder (gan FTP) i fod yn syth o dan eich ffolder phpBB3,
    e.e. www.example.com/phpbb/chat/
  4. Yna bydd angen myned i’r cyfeiriad:
    www.example.com/phpbb/chat/install.php
  5. Dylech dderbyn neges yn dweud bod y data-bas wedi’i arsefydlu’n gywir.
  6. Nawr, dilëwch y ffeil install.php.

Er mwyn cysylltu’r pecyn gyda’ch fforwm, bydd angen i chi osod eitem ar y cyfeirbar.

  1. Mewngofnodwch i’r fforwm fel gweinyddwr.
  2. Agorwch ARDDULLIAU a dewis TEMPLADAU ac yna GOLYGU a dewis y ffeil OVERALL_HEADER.HTML.
  3. Rhowch <li><a href="CYFEIRIAD I DUDALEN INDEX Y CHAT" target="_blank">SGWRS!!</a></li> ar ôl
    <ul class="linklist rightside">.

Dylech weld rhywbeth fel y dde:

Sylwch y testun SGWRS!

Ni fydd eicon yn ymddangos fel yma heb law eich bod wedi newid y steil o flaen llaw ac wedi llwytho’r ddelwedd. Mae hwn allan o sgôp y canllawiau.

Nawr gallwch bwyso’r botwm i gael eich sgwrs: