WETWORK

Corlan Adnoddau Arlein Cymraeg


Pecyn Oriel Coppermine

Mae Oriel Coppermine (Coppermine Gallery) yn becyn er mwyn llwytho ac arddangos delweddau. Gallwch osod eich delweddau mewn i gategorïau a rhoi'r hawl i ddefnyddwyr i lwytho eu delweddau nhw. Mae adran Gweinyddwr ar gael er mwyn trefnu gosodiadau cwstwm.

delwedd o fforwm coppermine

Pecyn

Gallwch lawrlwytho'r pecyn o fan hyn.

Ffeiliau iaith

Os ydych angen y ffeiliau iaith Gymraeg, gallwch eu lawrlwytho o fan hyn, er mae Coppermine erbyn hyn yn cynnwys fy ffeiliau ac yn eu defnyddio.

Arddangosiad

Gallwch edrych ar arddangosiad o'r pecyn yn y Gymraeg fan hyn. Mae'r arddangosiad yn dangos prif nodweddion y pecyn, gyda dewisiadau iaith a themâu.

Delweddau sgrin o'r pecyn

Mae'r isod yn dangos y rhyngwyneb defnyddiwr (gyda thema Hardwired)

rhyngwyneb defnyddiwr

Mae'r isod yn dangos y rhyngwyneb gweinyddu (gyda thema Fruity - braidd yn llachar!)

rhyngwyneb gweinyddu