WETWORK

Corlan Adnoddau Arlein Cymraeg


Defnyddio CSS - Rheolau Cyffredin

Ewch i CSSZenGarden i weld pwer CSS

Ar y dudalen hon, cewch ddod o hyd i wybodaeth ar y canlynol (dewiswch un i ddangos yr adran honno):

Gosod rheolau CSS a'r mathau o elfennau | fformatio a steilio testun | meintio | gosod a lleoli

Gosod Rheolau CSS a'r Mathau o Elfennau

Mae rhyw wyth phrif ffordd o osod elfennau (selectors) er mwyn fformatio a gosod rheolau. Gwnewn edrych ar rhyw saith, ond dim ond cyflwyniad syml i CSS yw pwrpas hyn.

Dyma'r elfennau:

brig

Elfennau Syml

Dyma elfennau unigol neu "noeth". Mae elfennau syml yn cyfateb i dagiau HTML, e.e. mae tagiau paragraff <p></p> yn cyfateb i'r elfen p mewn CSS; y tag delwedd <img /> yn cyfateb i img; y tag <h2></h2> yn cyfateb i h2; ayyb, e.e.

p{

color:blue;

font-weight:bold;

}


h2{

text-align:center;

font-size:20px;

}


img{

border:2px dashed black;

float:left;

}

Mae'r darn uchod yn sicrhau bod pob paragraff ar y dudalen yn fras ac mewn lliw glas. Bydd pob pennawd h2 wedi'u canoli ac o faint 20 picsel. Bydd pob delwedd ag ymyl toredig, du gyda thrwch o 2 picsel. Hefyd bydd delweddau'n cael eu gosod i'r ochr chwith felly bod cynnwys gweddill y dudalen yn llifo o'u hamgylch:

Dyma enghraifft o steilio elfennau syml

Gallwch ddweud unrhyw beth rydych eisiau am Wil, mae'n foi iawn ac yn bwyta ei borej i gyd. Pleser yw paratoi ei frecwast pob bore.

Er gwaetha'r ffaith bod rhaid iddo sugno'r bwyd i fyny trwy ei ffrwynau ar ôl i Twm Puw bwrw'i ddannedd allan gyda gordd drom, mae'n siapo lan yn grêt!


brig

Rhestr o Elfennau

Ambell waith mae llawer o elfennau'n rhannu'r un priodweddau. Yn yr achos hwn, byddai'r wastraffus i ddyblygu pob rheol, felly gallwn eu cyfuno yn y ffordd hon:

/*== Yn hytrach na defnyddio'r isod ==*/

p{

font-family:Verdana, Arial, Sans-Serif;

color:#cc00ff;

}


h3{

font-family:Verdana, Arial, Sans-Serif;

color:#cc00ff;

}


h4{

font-family:Verdana, Arial, Sans-Serif;

color:#cc00ff;

}


/*== Gallwch wneud y canlynol ==*/

p, h3, h4{

font-family:Verdana, Arial, Sans-Serif;

color:#cc00ff;

}

brig

Elfennau Disgynnol

Yn aml, caiff tagiau HTML eu nythu (nest) un tu fewn i'r llall. Gall hwn gyflwyno cyfle i CSS steilio ardal neu eitem yn y dualen mewn ffordd unigryw:

<!-- ####### YR XHTML ####### -->


<p>Dyma baragraff.<p>

<div>

<p>Dyma baragraff arall tu mewn DIV.<p>

</div>


/* ####### Y CSS ####### */

p{

font-family:Geneva, Arial, Helvetica, sans-serif;

color:blue;

text-align:right;

}


div p{

color:red;

}

Mae'r uchod yn rhoi'r canlyniad isod:

Dyma baragraff.

Dyma baragraff arall tu mewn DIV.

Digwyddai hyn oherwydd bod "div p" yn sbesiffig ac yn trechu rheol cyffredinol ar gyfer "p".

Fe wnewch chi hefyd sylwi fod y testun coch (mewn DIV) wedi etifeddu priodweddau cyffredinol p. Hynny yw, mae'r rheol wedi rhaeadru trwy'r daflen. Heb law bo rheol sbesiffig mewn elfennau disgynnol (e.e. div p), byddant yn etifeddu'r rheol o'r elfen gyffredinol (e.e. p)

brig

Elfennau gydag ID

Yn amlwg gall gwahaniaethu rhwng elfen fan hyn ac elfen fan yna fwrw terfyn yn go gyflym, felly mae priodoleddau ID a CLASS yn ddefnyddiol iawn. Cânt eu defnyddio fel y canlynol:

<p id="tag">Dyfal donc a dyrr y garreg</p>

Y prif wahaniaeth rhwng ID a CLASS yw eich bod dim ond yn gallu defnyddio ID unwaith ar dudalen ond gallwch ail-ddefnyddio CLASS cymaint o weithiau ag y dymunwch.

Gallwch ddefnyddio'r cod isod ar gyfer CSS:

p#tag{

font-style:italic;

font-family:"Times New Roman", Times, serif;

}

Bydd yr elfen (p#tag) yn etifeddu pob priodwedd o'r brif elfen (p), ond bydd unrhyw briodwedd sy'n cael ei osod iddi'n sbesiffig yn trechu rheol flaenorol neu'n ychwanegu at y set o reolau os nac oes un flaenorol.

Dyfal donc a dyrr y garreg

Mae'r uchod yn dangos bod ID yn cael ei gynrychioli gan y symbol '#' mewn CSS.

brig

Elfennau gyda CLASS

Yn gyffredinol, mae defnydd CLASS yn gwymwys yr un peth ag ID, ond gyda dau brif gwahaniaeth:

  • gallwch ddefnyddio yr un CLASS nifer fawr o weithiau yn yr un dudalen
  • gallwch rhestru sawl CLASS gyda'i gilydd

<!-- ######## HTML ####### -->

<p class="pwysig" >Mae hwn yn bwysig.</p>

<p class="canoli" >Mae hwn yn cael ei ganoli.</p>

<p class="pwysig canoli" >Mae hwn yn bwysig ac yn cael ei ganoli.</p>


/* ######## CSS ####### */

.pwysig{

color:red;

font-weight:bold;

}


.canoli{

text-align:center;

}

Bydd yr uchod yn edrych fel y canlynol gyda'r CSS hwn:

Mae hwn yn bwysig.

Mae hwn yn cael ei ganoli.

Mae hwn yn bwysig ac yn cael ei ganoli.

D.S. Gallwn fod wedi gosod p.pwysig a p.canoli yn lle .pwysig a .canoli. Hefyd, fel rheol byddem yn ceisio ag osgoi gosod rhywbeth mor llythrennol â "canoli". Gweler y dudalen ar ddatrysiadau am esboniad.

brig

Elfennau gyda Ffug-elfennau a Ffug-ddosbarthiadau

Mae defnydd ffug-elfennau / ffug-ddosbarthiadau dal yn ddadleuol, ond mae defnydd rhai ohonynt yn ddiogel ar bron pob porwr. Ar gyfer hwyluso'r canllawiau, dwi'n mynd i alw ffug-elfennau a ffug-ddosbarthiadau'n ffug-elfennau. Mae gan ffug-elfennau'r ffurf isod:

elfen:ffug-elfen{

priodwedd: gwerth(oedd);

}

Un elfen sydd yn gwneud defnydd dilys o ffug-elfennau yw'r ddolen (A). Mae dolenni'n cael eu steilio/fformatio er mwyn sefyll allan.

Yn aml, bydd y fformat y ddolen wreiddiol (LINK) yn newid wrth i'r llygoden symud drosti (HOVER). Ambell waith bydd fformat y ddolen yn edrych yn wahanol os ydych wedi ymweld â hi eisoes (VISITED). Hefyd bydd rhai datblygwyr yn sicrhau bod y cyflwr "llygoden lawr" (defnyddiwr yn pwyso'r botwm chwith y llygoden dros y ddolen) yn edrych yn wahanol (ACTIVE).

Os ydych am fformatio'ch dolenni, mae'n rhaid eu diffinio mewn trefn: LINK, VISITED, HOVER, ACTIVE - ffordd hawdd i'w cofio yw LoVe HAte.

Os ydych yn rhoi'r rhain yn y drefn anghywir, ni fydd y dolenni'n ymddangos yn gywir.

a:link{

text-decoration:none;

color:blue;

}


a:visited{

text-decoration:line-through;

color:blue;

}


a:hover{

text-decoration:none;

color:green;

}


a:active{

text-decoration:none;

color:orange;

}


Ceisiwch ar y ddolen isod:

Dyma enghraifft o ddolen sydd yn mynd â chi i'r un dudalen.

Mae ffug-elfennau eraill sydd wedi dechrau cael eu defnyddio, er mae cynhaliaeth porwyr yn amrywio. Pwrpas y rhain yw i roi effeithiau arbennig i elfennau. Mae rhai porwyr yn caniatáu defnydd HOVER am elfennau eraill, felly bod modd creu effeithiau rollover, ond yn anffodus mae rhai porwyr yn anwybyddu hyn ac felly mae'r defnydd yn amheus.

Y rhai mwyaf poblogaidd yw'r canlynol:

  • :focus mae hwn yn gallu fformatio elfen pan fydd yn derbyn y ffocws (e.e. ffurflenni a dolenni)
  • :first-child mae hwn yn fformatio'r achos cyntaf o'r elfen
  • :lang mae hwn yn fformatio'r ardaloedd iaith estron - nid yw'n gweithio mewn IE6 a chynt!!

Rheolau:

<!-- ######## HTML ####### -->

<p>Dyma'r paragraff cyntaf - gallwch weld ei fod wedi steilio'n wahanol i'r lleill?</p>

<p>Dyma'r ail baragraff - dim steilio <code>:first-child</code> gobeithio!</p>

<p lang="it" xml:lang="it">Narrasi che tutti gli uomini ... [wedi tocio]</p>

<p>Dyma'r pedwerydd paragraff.</p>

<form ... >

<input type="text" id="enw" name="enw" />

</form>


/* ######## CSS ####### */

input:focus{

background-color:yellow;

color:red;

}


p:first-child{

background-color:yellow;

color:red;

}


p:lang(it){

color:green;

font-weight:bold;

border:green 2px dotted;

}


Dyma'r paragraff cyntaf - gallwch weld ei fod wedi steilio'n wahanol i'r lleill?

Dyma'r ail baragraff - dim steilio :first-child gobeithio!

Narrasi che tutti gli uomini che da principio popolarono la terra, fossero creati per ogni dove a un medesimo tempo, e tutti bambini, e fossero nutricati dalle api, dalle capre e dalle colombe nel modo che i poeti favoleggiarono dell'educazione di Giove. E che la terra fosse molto più piccola che ora non è, quasi tutti i paesi piani, il cielo senza stelle, non fosse creato il mare, e apparisse nel mondo molto minore varietÀ e magnificenza che oggi non vi si scuopre. Ma nondimeno gli uomini compiacendosi insaziabilmente di riguardare e di considerare il cielo e la terra, maravigliandosene sopra modo e riputando l'uno e l'altra bellissimi e, non che vasti, ma infiniti, così di grandezza come di maestà e di leggiadria; pascendosi oltre a ciò di lietissime speranze, e traendo da ciascun sentimento della loro vita incredibili diletti, crescevano con molto contento, e con poco meno che opinione di felicità.

Dyma'r pedwerydd paragraff.

Hoffwn orffen fanna, ond yn anffodus mae CSS3 wedi'i rhyddhau ac yn cynnig hyd at 17 ffug-elfen ychwanegol. Eto mae cynhaliaeth porwyr yn amrywio. Os ydych am wybod pa borwyr sy'n cynnal pa ffug-elfennau, ewch at webdevout.net.

brig

Elfennau gyda Phriodoledd

Am ddisgrifiad llawn o'r rhain, ewch i http://www.w3.org/TR/css3-selectors/.

Pwrpas y rhain yw bod yn sbesiffig ynghylch priodoleddau tagiau HTML, e.e.

<!-- ######## HTML ####### -->

...

<input type="text" id="enw" name="enw" />

<br />

<input type="submit" value="Anfon" id="cer" name="cer" />

...


/* ######## CSS ####### */

input[type="text"]{

background-color:blue;

color:yellow;

}


Dibynnu ar eich porwr, efallai ni welwch y blwch testun yn gywir (dylai fod yn las gyda thestun melyn). Dylai'r botwm 'Anfon' ymddangos yn normal.



brig

Elfennau Eraill

Ambell waith caiff elfennau eu cymharu ag elfennau eraill. Ystyriwch dwy elfen, E ac F. Caiff yr elfennau eu cynrychioli gan <E></E> a <F></F>.

E FMae hwn wedi'i drafod eisoes (elfennau disgynnol).

E > FDyma F yn 'blentyn' i E

<!-- ######## HTML ####### -->

<E>Brynaman yw <F>canol y Bydysawd</F> i bob Cymro glan.</E>


/* ######## CSS ####### */

E > F{

background-color:white;

color:black;

}

Nid yw IE6 a chynt yn ei ddeall!

Mae hwn yn debyg iawn i'r elfennau 'disgynnol'. Yr unig wahaniaeth yw bod 'plentyn' yn cyfeirio at y tag cyntaf (F) tu fewn i'r 'rhiant' (E). Gall 'ddisgynnydd' gyfeirio at unrhyw tag mewnol (F; e.e. 3 lefel i mewn) tu fewn i'r 'rhiant' (E; e.e.<E><X><Y><F></F></Y></X></E>).

E + FDyma lle bo F yn dod yn syth ar ôl E

Nid yw IE6 a chynt yn ei ddeall!

Nid oes 'rhiant' na 'phlentyn' / 'disgynnydd' yma, dim ond dau dag yn dilyn yn syth ar ôl ei gilydd, e.e.<E> ... </E><F> ... </F>.

E ~ FDyma lle bo F yn dilyn E yn anuniongyrchol

Nid yw IE6 a chynt yn ei ddeall!

Gall y canlynol weithio, e.e.<E> ... </E><X> ... </X><F> ... </F>.

Fformatio Testun

Mae'r adran hon yn ymwneud â phriodweddau sy'n effeithio ar ymddangosiad testun.

Mae nifer helaeth o briodweddau a allwn edrych arnynt, ond gwnaf ganolbwyntio ar y rhai amlwg. Ym mhob achos, byddaf yn defnyddio 'p' fel tag enghreifftiol, ond dylech sylweddoli bod y dulliau isod yn addas ar gyfer bron pob tag sydd yn gallu cynnwys testun (e.e. input, td, blockquote, code, cite, h1 - h6, ayyb).

Dyma'r darnau sylfaenol:

  • Lliw (color; background-color)
  • Ffont (font-family; font-style; line-height; font-size; font-weight)
  • Lleoli (text-align)
  • Addurno'r testun (text-decoration; text-transform)
  • Bylchu (letter-spacing; word-spacing;)

brig

Lliw

Ar gyfer lliw'r testun, mae dwy brif briodwedd - lliw'r ysgrifen ei hun (color) a lliw'r cefndir (background-color).

p{

color:yellow;

background-color:blue;

}


p + p{

color:#6B8E23; /*OliveDrab yw hwn*/

background-color:#FAEBD7; /*AntiqueWhite yw hwn*/

}


dyma destun lliw melyn gyda chefndir glas

dyma destun lliw OliveDrab gyda chefndir AntiqueWhite

Gall y lliw gael ei osod yn lythrennol (Saesneg) neu fel rhif hecs (e.e. #33CCFF). Mae rhifau hecs yn rhoi Coch-Gwyrdd-Glas (RGB) mewn rhifau hecsadegol (rhifau bàs 16, sef 0,1,2,3,4,5,6,7,8,9,A,B,C,D,E,F), felly '#' gyda 0 - 255 (162) mewn hecsadegol (00 - FF) ar gyfer pob un o'r 3 lliw.

Gwyn yw #FFFFFF (100% ym mhob lliw).

Du yw #000000 (0 ym mhob lliw).

Coch yw #FF0000 (100% coch 0 gwyrdd 0 glas).

Gwyrdd yw #00FF00 (0 coch 100% gwyrdd 0 glas).

Glas yw #0000FF (0 coch 0 gwyrdd 100% glas).

Enwau lliwiau derbyniol:

Enw Hecs Lliw
AliceBlue #F0F8FF
AntiqueWhite #FAEBD7
Aqua #00FFFF
Aquamarine #7FFFD4
Azure #F0FFFF
Beige #F5F5DC
Bisque #FFE4C4
Black #000000
BlanchedAlmond #FFEBCD
Blue #0000FF
BlueViolet #8A2BE2
Brown #A52A2A
BurlyWood #DEB887
CadetBlue #5F9EA0
Chartreuse #7FFF00
Chocolate #D2691E
Coral #FF7F50
CornflowerBlue #6495ED
Cornsilk #FFF8DC
Crimson #DC143C
Cyan #00FFFF
DarkBlue #00008B
DarkCyan #008B8B
DarkGoldenRod #B8860B
DarkGray NEU DarkGrey #A9A9A9
DarkGreen #006400
DarkKhaki #BDB76B
DarkMagenta #8B008B
DarkOliveGreen #556B2F
DarkOrange #FF8C00
DarkOrchid #9932CC
DarkRed #8B0000
DarkSalmon #E9967A
DarkSeaGreen #8FBC8F
DarkSlateBlue #483D8B
DarkSlateGray #2F4F4F
DarkSlateGrey #2F4F4F
DarkTurquoise #00CED1
DarkViolet #9400D3
DeepPink #FF1493
DeepSkyBlue #00BFFF
DimGray NEU DimGrey #696969
DodgerBlue #1E90FF
FireBrick #B22222
FloralWhite #FFFAF0
ForestGreen #228B22
Fuchsia #FF00FF
Gainsboro #DCDCDC
GhostWhite #F8F8FF
Gold #FFD700
GoldenRod #DAA520
Gray NEU Grey #808080
Green #008000
GreenYellow #ADFF2F
HoneyDew #F0FFF0
HotPink #FF69B4
IndianRed #CD5C5C
Indigo #4B0082
Ivory #FFFFF0
Khaki #F0E68C
Lavender #E6E6FA
LavenderBlush #FFF0F5
LawnGreen #7CFC00
LemonChiffon #FFFACD
LightBlue #ADD8E6
LightCoral #F08080
LightCyan #E0FFFF
LightGoldenRodYellow #FAFAD2
LightGray NEU LightGrey #D3D3D3
LightGreen #90EE90
LightPink #FFB6C1
LightSalmon #FFA07A
LightSeaGreen #20B2AA
LightSkyBlue #87CEFA
LightSlateGray #778899
LightSlateGrey #778899
LightSteelBlue #B0C4DE
LightYellow #FFFFE0
Lime #00FF00
LimeGreen #32CD32
Linen #FAF0E6
Magenta #FF00FF
Maroon #800000
MediumAquaMarine #66CDAA
MediumBlue #0000CD
MediumOrchid #BA55D3
MediumPurple #9370D8
MediumSeaGreen #3CB371
MediumSlateBlue #7B68EE
MediumSpringGreen #00FA9A
MediumTurquoise #48D1CC
MediumVioletRed #C71585
MidnightBlue #191970
MintCream #F5FFFA
MistyRose #FFE4E1
Moccasin #FFE4B5
NavajoWhite #FFDEAD
Navy #000080
OldLace #FDF5E6
Olive #808000
OliveDrab #6B8E23
Orange #FFA500
OrangeRed #FF4500
Orchid #DA70D6
PaleGoldenRod #EEE8AA
PaleGreen #98FB98
PaleTurquoise #AFEEEE
PaleVioletRed #D87093
PapayaWhip #FFEFD5
PeachPuff #FFDAB9
Peru #CD853F
Pink #FFC0CB
Plum #DDA0DD
PowderBlue #B0E0E6
Purple #800080
Red #FF0000
RosyBrown #BC8F8F
RoyalBlue #4169E1
SaddleBrown #8B4513
Salmon #FA8072
SandyBrown #F4A460
SeaGreen #2E8B57
SeaShell #FFF5EE
Sienna #A0522D
Silver #C0C0C0
SkyBlue #87CEEB
SlateBlue #6A5ACD
SlateGray #708090
SlateGrey #708090
Snow #FFFAFA
SpringGreen #00FF7F
SteelBlue #4682B4
Tan #D2B48C
Teal #008080
Thistle #D8BFD8
Tomato #FF6347
Turquoise #40E0D0
Violet #EE82EE
Wheat #F5DEB3
White #FFFFFF
WhiteSmoke #F5F5F5
Yellow #FFFF00
YellowGreen #9ACD32

brig

Ffont

Mae ffont y testun gallu gwneud neu difetha gwefan. Yn anffodus, nid oes modd defnyddio pob ffont ar eich cyfrifiadur. Mae porwyr dim ond yn gallu dangos ffontiau sydd ar beiriant y defnyddiwr. Erbyn hyn mae sawl ffont safonol yn cael eu defnyddio, mae'r rhain yn cynnwys:

  • Arial yw'r ffont hwn - heb serif
  • Verdana yw'r ffont hwn - heb serif
  • Times New Roman yw'r ffont hwn - gyda serif
  • Courier New yw'r ffont hwn - gyda serif a phob llythyren â'r un lled

Mae dulliau o ddangos rhyw faint o'ch hoff ffont gan ddulliau fel "flash-replacement" neu defnyddio delweddau, ond nid yw hyn ar gyfer testun tudalen yn gyffredinol.

Os oes gennych wir angen i ddangos ffont sydd yn weddol cyffredin i'r rhan helaeth o'ch cynulleidfa, gallwch osod rhestr o ffontiau, gyda'r un nesaf yn y rhestr yn cael ei ddefnyddio os nac ydy'r un cyn hynny ar gael. Y ffordd o wneud hyn yw defnyddio'r briodwedd, font-family.

font-family:Geneva, "Times New Roman", Times, serif;

Mae'r uchod yn golygu "defnyddiwch Geneva os ydyw ar gael, os na defnyddiwch Times New Roman ac os nac ydy hwnnw ar gael, defnyddiwch ffont Times, ac os nac ydy hwnnw ar gael ychwaith, defnyddiwch unrhyw ffont gyda seriff."

Sylwch os oes mwy nag un gair yn yr enw bydd angen ei osod mewn dyfynodau, "...".

Os nac oes unrhyw ffont yn y rhestr ar beiriant y defnyddiwr, bydd y ffont ddiofyn ar ei beiriant yn cael ei ddefnyddio (iyc!).


delwedd i ddangos hydoedd ffontiau ar yr un maint (16px)Mae'n rhaid bod yn ofalus wrth ddefnyddio'r dull hwn fel 'safety net' - sylwch ar y ddelwedd i'r dde - mae ffontiau, er eu bod ar yr un maint (16px yn yr enghraifft hon), yn cymryd lled gwahanol (gweler y llinellau llwyd yn marcio diwedd y gair 'mewn'). O ganlyniad, byddwch yn ofalus os yw hyd a lled eich testun yn gritigol. E.e. gall testun torri allan o'i focs taclus os oes llinell newydd yn cael ei greu oherwydd bod y ffont newydd yn hirach.

Maint y ffont

Gallwn newid maint y ffont gan y canlynol:

font-size:16px;

Yn aml, caiff maint y ffont ei osod mewn picsel, er mae sawl uned arall ar gael (pt; em; %). Nid yw pt a % yn cael ei ddefnyddio fel rheol, ond caiff em ei ddefnyddio lle bod angen gosodiad elastig neu gymharol.

Mae modd defnyddio em fel y canlynol:

body{

font-size:62.5%;

}


p, td, input, textarea, li{

font-size:1em;

}


h1{

font-size:2.2em;

}


h2{

font-size:1.8em;

}

Mae'r elfen body yn gosod y bàs i 10px (mae 62.5% yn hafal i 10px).

Mae pob elfen arall yn derbyn hwn fel sail ac yn gosod lluosydd arno, e.e. Mae 1em yn hafal i 10px X 1 = 10px. Bydd 2.2em yn hafal i 10px X 2.2 = 22px ayyb.

Yn anffodus, oherwydd bod CSS yn rhaeadrol, bydd 'plant' yn derbyn bàs o'r 'rhiant', e.e.

/*######### DYMA'R CSS ##########*/

body{

font-size:62.5%;

}


p{

font-size:1.5em;

}


span{

font-size:1.5em;

color:green;

}


<!-- ####### DYMA'R XHTML ########-->

<p>Dylai doethion ddarllen <span>Darwin</span></p>.

Mae'r uchod yn rhoi:

Dylai doethion ddarllen Darwin.

Sylwch fod y tag span wedi chwyddo. Y rheswm am hyn yw fod y tag p (y 'rhiant') yn 15px (10px X 1.5) ac mae'r span (y 'plentyn') yn 22.5px (15px X 1.5). Byddwch yn ofalus wrth osod em!!

Mae'n rhaid dweud bo'r enghraifft uchod braidd yn artiffisial oherwydd gallwch osgoi'r broblem gan beidio â gosod priodwedd font-size i'r tag span.

Llefydd amlwg am broblemau fel hyn yw tablau a rhestrau.


Steil y ffont

Mae'r briodwedd font-style yn ddefnyddiol am osod steil italig neu i'w ganslo.

/*######### DYMA'R CSS ##########*/

.dyf{

font-style:italic;

}


.hen{

font-style:oblique;

}


.dyf span, .hen span{

font-style:normal;

}


<!-- ####### DYMA'R XHTML ########-->

<p class="dyf">"Aeth y diafol bant o'r to a chymryd <span>purwen</span> o'i boced..."</p>

<p class="hen">"Daeth y trysor i'r arwyneb wrth i gapten <span>Y Morfil</span> dynnu ar ei raw a ..."</p>

Mae'r uchod yn rhoi:

"Aeth y diafol bant o'r to a chymryd purwen o'i boced..."

"Daeth y trysor i'r arwyneb wrth i gapten Y Morfil dynnu ar ei raw a ..."


Gosod Steil Bras

Mae'r briodwedd font-weight yn caniatáu steil bras:

/*######### DYMA'R CSS ##########*/

.pwysig{

font-weight:bold;

color:red;

}


<!-- ####### DYMA'R XHTML ########-->

<p>Mae genynnau'n <span class="pwysig">hunanol</span>.</p>

Mae'r uchod yn rhoi:

Mae genynnau'n hunanol.

Ar y pwynt hwn efallai rydych yn gofyn y cwestiwn, pam nid gosod tag em ar gyfer italig a thag strong ar gyfer bras? Yr ateb syml i hyn yw eich bod yn gorfod defnyddio 'cod caled' XHTML i wneud hyn. Meddyliwch am y sefyllfa, "Dwi eisiau newid golwg pob darn pwysig o fras i italig a thanlinellu." Byddai defnyddio XHTML yn real boen, yn enwedig os oedd llawer o dudalennau i'w newid. Gyda CSS, dim ond un newid bach i un ffeil!


Uchder Llinell

Mae uchder llinell (line-height) yn amlwg yn gosod uchder i'r llinell.

/*######### DYMA'R CSS ##########*/

p.gonzo{

font-size:10px;

line-height:25px;

}


p.fozzy{

font-size:10px;

}


<!-- ####### DYMA'R XHTML ########-->

<p class="gonzo">Mae pwer ocsidio yn lleihau wrth fynd lawr y gr&amp#373;p ond yn cynyddu wrth fynd ar draws y cyfnod. Fflworin yw ocsidydd mwyaf pwerus o ran yr elfennau. Mae hwn yn dilyn patrwm electronegatifedd.</p>


<p class="fozzy">Wrth fynd ar draws gyfnod mae mwy o brotonau er nid oes mwy o blisg, felly bydd maint yr atom yn lleihau (mwy o atyniad rhwng y niwclews a’r electronau allanol), felly bydd mwy o atyniad ar gyfer electronau mewn bond (MWY ELECTRONEGATIF).</p>


Mae pwer ocsidio yn lleihau wrth fynd lawr y grŵp ond yn cynyddu wrth fynd ar draws y cyfnod. Fflworin yw ocsidydd mwyaf pwerus o ran yr elfennau. Mae hwn yn dilyn patrwm electronegatifedd.

Wrth fynd ar draws gyfnod mae mwy o brotonau er nid oes mwy o blisg, felly bydd maint yr atom yn lleihau (mwy o atyniad rhwng y niwclews a’r electronau allanol), felly bydd mwy o atyniad ar gyfer electronau mewn bond (MWY ELECTRONEGATIF).

Mae'n rhaid dweud bod llinell tarw ar gyfer yr holl briodweddau hyn - gallwn ddefnyddio'r brif briodwedd, font:

p.sam{

font: italic small-caps bold 12px/14px arial

}

Mae'r uchod yn dangos llinell tarw am font-style (italic); font-variant (small-caps); font-weight (bold); font-size/line-height (12px/14px); font-family (arial).


Lleoli neu Alinio

Rydym yn gyfarwydd ag alinio mewn pecynnau prosesu geiriau a'r fath. Gallwn alinio testun gan y canlynol:

text-align:left;

Lle gall left gael ei amnewid gyda 'right', 'center' a 'justify'


Addurno'r Testun

Gallwn addurno'r testun gyda 'text-decoration' a 'text-transform':

/*######### DYMA'R CSS ##########*/

.kermit{

text-decoration:line-through;

}


.chef{

text-decoration:overline;

}


.beaker{

text-decoration:underline;

}


.animal{

text-transform:capitalize;

}


.prof{

text-transform:lowercase;

}


.zoot{

text-transform:uppercase;

}


<!-- ####### DYMA'R XHTML ########-->

<p>Dyma baragraff rhyfedd yn dangos sawl briodwedd gan gynnwys <span class="kermit">line-through</span>, <span class="chef">overline</span>, <span class="beaker">underline</span>, <span class="animal">capitalize</span>, <span class="prof">LoWeRCaSe</span> ac <span class="zoot">uppercase</span>.</p>

Mae'r uchod yn dangos:

Dyma baragraff rhyfedd yn dangos sawl briodwedd gan gynnwys line-through, overline, underline, capitalize, LoWeRCaSe ac uppercase.

Weithiau caiff yr uchod eu defnyddio i osod ymddygiad diofyn, e.e. text-transform:capitalize ar gyfer penawdau.

D.S. Mae text-decoration a text-transform hefyd yn gallu cael eu gosod i'r gwerth none. Mae hwn yn canslo unrhyw effaith gweledol.


Bylchu

Gallwn newid golwg y testun gan newid y bylchau sydd rhwng llythrennau neu eiriau gyda 'letter-spacing' a 'word-spacing.'

/*######### DYMA'R CSS ##########*/

.hutch{

letter-spacing:10px;

}


.magnum{

word-spacing:30px;

}


<!-- ####### DYMA'R XHTML ########-->

<p>Dyma baragraff normal</p>

<p class="hutch">Dyma baragraff letter-spacing</p>

<p class="magnum">Dyma baragraff word-spacing</p>

Mae'r uchod yn rhoi:

Dyma baragraff normal

Dyma baragraff letter-spacing

Dyma baragraff word-spacing

Meintio

Mae meintio elfennau'n gymharol hawdd i'w wneud, er mae'r posibiliad o gael e'n anghywir yn uchel! Cyn meintio, mae'n rhaid meddwl am y fath wefan rydych am greu - sefydlog neu hylifol/elastig. Os ydych yn creu gwefannau sefydlog, lle bydd popeth â maint penodol, dylech ddefnyddio picsel (px) i feintio elfennau. Ar y llaw arall, os ydych am i'r dudalen a'r elfennau tu fewn iddi ail-feintio, defnyddiwch ganrannau ac em.

Os ydych yn creu golwg i'w argraffu, gallwch ddefnyddio cm neu bwyntiau (pt) - gweler y dudalen ar ddatrysiadau.

/*########### Ar gyfer gwefannau maint sefydlog #########*/

body{

font-size: 12px;

text-align:center;

}

#wrapper{

width:730px;

margin: 0 auto;

text-align:left;

}

p,li,input,textarea,td,th{

font-size: 12px;

}

h1{

font-size: 30px;

}

h2{

font-size: 22px;

}


/*########### Ar gyfer gwefannau maint elastig #########*/

body{

font-size: 62.5%;

text-align:center;

}

#wrapper{

width:80%;

margin: 0 auto;

text-align:left;

}

p,li,input,textarea,td,th{

font-size: 1.2em;

}

h1{

font-size: 3em;

}

h2{

font-size: 2.2em;

}


/*########### Ar gyfer ffeil 'print.css' #########*/

body{

font-size: 12pt;

text-align:center;

}

#wrapper{

width:15cm;

margin: 0 auto;

text-align:left;

}

p,li,input,textarea,td,th{

font-size: 12pt;

}

h1{

font-size: 30pt;

}

h2{

font-size: 22pt;

}


<!-- ######### Ar gyfer tudalen fel hon ######## -->

<body>

<div id="wrapper">

<!-- gweddill y dudalen fan hyn -->

</div>

</body>

Mae gosod div o gwmpas y dudalen gyfan yn ffordd ddefnyddiol i reoli'r gosodiad, e.e. canoli'r dudalen a gosod delweddau i'r cefndir. Dwi pob amser yn gwneud hyn. Mae'n bosib bod rhai purdebwyr yn meddwl ei fod yn tag di-angen ac o ganlyniad yn 'big no-no'. Ar y llaw arall, mae'r rhan fwyaf o ddatblygwyr yn ei ddefnyddio ac mae'n gwneud gwaith y datblygwr llawer yn haws.

Gosod a Lleoli

Er mwyn gosod a lleoli elfennau ar y sgrin (neu bapur), mae angen deall sawl elfen a phriodwedd: margin; padding; float; clear; display; height; width; position; left; top; bottom; right; background-position.

Er mwyn deall margin a padding, mae angen edrych ar y 'box model.'

'box model' ar gyfer gosod margin, border, width, height a padding.Mae'r 'box model' yn dangos y cymhlethtod o osod cynnwys tu fewn cynhwysydd. Fel rheol bydd y cynhwysydd yn tag div, er gall fod yn rhywbeth mor syml â thag p hefyd. Dyma enghraifft:



/*########### Y CSS #########*/

.snap{

padding: 20px;

border: 3px solid blue;

margin: 20px;

height: 150px;

background-color: yellow;

}


<!-- ######### Yr HTML ######## -->

<div class="snap">

<p>Dyma div gyda bits'n'bobs</p>

</div>


Dyma div gyda bits'n'bobs

Yn anffodus, mae'n bron yn amhosib i ddangos margin. Yn ogystal â defnyddio 'border', 'padding' a 'margin', gallwch hefyd ddefnyddio ochrau unigol:

  • border-left; border-top; border-right; border-bottom
  • padding-left; padding-top; padding-right; padding-bottom
  • margin-left; margin-top; margin-right; margin-bottom

D.S. Sawl blynedd yn ôl, roedd Internet Explorer (fersiynau 5 - 5.5) yn wallus iawn wrth ddangos y 'box model'. Erbyn hyn, dylai pob porwr fod yn gallu cynrychioli'r peth yn gywir.

Float a Clear

Ambell waith rydym am alinio testun o gwmpas delwedd yn hytrach na chael delwedd yn rhan o'r frawddeg. Mae IMG yn dag INLINE yn ddiofyn. Er mwyn dod o amgylch y broblem hon, gallwn osod priodoledd float iddi. Gall float osod elfen fel IMG i'r dde neu i'r chwith o'r dudalen.

/*########### Y CSS #########*/

img.inset{

float: left;

margin: 10px 10px 10px 0;

}


<!-- ######### Yr HTML ######## -->

<p><img class="inset" src = "/notepad.jpg" alt="dyma lun i'r chwith" />Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud exercitation ullamco laboris nisi ut aliquip ex ea commodo consequat. Duis aute irure dolor in reprehenderit in voluptate velit esse cillum dolore eu fugiat nulla pariatur. Excepteur sint occaecat cupidatat non proident, sunt in culpa qui officia deserunt mollit anim id est laborum...</p>


dyma lun i'r chwithLorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud exercitation ullamco laboris nisi ut aliquip ex ea commodo consequat. Duis aute irure dolor in reprehenderit in voluptate velit esse cillum dolore eu fugiat nulla pariatur. Excepteur sint occaecat cupidatat non proident, sunt in culpa qui officia deserunt mollit anim id est laborum. Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud exercitation ullamco laboris nisi ut aliquip ex ea commodo consequat.