Dylunio Gwefannau Dwyieithog - Cyflwyniad
Canllawiau Iaith
Os ydych am gynhyrchu gwefannau dwyieithog neu aml-ieithog, mae sawl ffordd o'u dylunio. Mae manteision ac anfanteision i bob un ohonynt. Os ydych â'r gallu i ddefnyddio iaith ochr-gweinyddwr, e.e. pHp, ASP, dyma'r ffordd i fynd. Mae defnyddio databas, e.e. MySQL, SQL Server, yn ddefnyddiol iawn i storio manylion yr iaith ac i hefyd storio clipiau data os oes angen. Rwyf wedi ysgrifennu y rhan fwyaf o'r cod fy hun, neu wedi addasu sgriptiau heb hawlfraint ar y lleiaf. Caiff datganiad hawlfraint ei gynnwys lle bo hyn yn addas.
Mae'r adrannau nesaf yn eich arwain trwy'r broses o adeiladu gwefannau aml-iaith. Os ydych yn darganfod darnau defnyddiol, mae pob croeso i chi gopïo a gludo'r cod. Os ydych yn meddwl bod gwell ffyrdd i wneud pethau, rhowch wybod i mi (drwy'r fforwm).
Dyma godau acenion cyffredin HTML yn y Gymraeg:
| to bach (â) | disgynedig (à) | dyrchafedig (á) | umlaut (ä) | |
| cyffredinol | &{llythyren}circ; | &{llythyren}grave; | &{llythyren}acute; | &{llythyren}uml; |
| enghraifft 1 | ê = ê | ù = ù | ó = ó | ï = ï |
| enghraifft 2 | Ê = Ê | Ù = Ù | Ó = Ó | Ï = Ï |
Ar gyfer ein hacenion arbennig:
| Ŵ | ŵ | Ŷ | ŷ |
| Ŵ | ŵ | Ŷ | ŷ |