Gadewch Neges Adborth
Os hoffech weld darn ar ryw agwedd o XHTML, CSS, pHp, MySQL, JS/Ajax neu rydych wedi sylwi camgymeriadau yn y testun neu bod angen eglurhad, rhowch bwt isod. Hefyd os hoffech roi eich barn ar y wefan, da neu drwg, hoffwn glywed eich sylwadau.
Cymerwch ofal oherwydd nid oes modd golygu na dileu negeseuon unwaith i chi bostio.
| Alan Davies [Gweinyddwr]17/09/2008 17:29:36 |
| Mae CSS ar y gweill. Unwaith i hwn orffen, rwyf yn mynd i ddechrau ar adran JS/Ajax. Diolch am eich amynedd. |
| Chici15/10/2008 18:16:22 |
| Maer darnau ar php yn fab. Rwi wedi creu rhaglen newydd gyda beth fi wedi dysgu yma. diolch Alan |
| Alan Davies [Gweinyddwr]15/10/2008 22:02:55 |
| Diolch Chici, cofia os wyt yn rhedeg mewn i drafferthion, cer i'r fforwm er mwyn dod o hyd at ddatrysiadau |
| Mike Jones18/10/2008 11:08:24 |
| Fel ti wedi gwneud y navigation bar? |
| Alan Davies [Gweinyddwr]]18/10/2008 11:34:00 |
| Mae'r cyfeirbar wedi'i gymryd o cod Stu Nicholls ar http://www.cssplay.co.uk/menus/final_drop.html. Yna gwnes adeiladu'r map cyfeirio wedi'i seilio ar ychydig o javascript ac image map. Mae'r cyfeirbar normal yn defnyddio CSS yn unig i'w gynhyrchu. |
| derwen gam21/10/2008 21:59:05 |
| Site dda iawn. DIolch Alan |
| dr w09/11/2008 13:41:09 |
| Sut nes ti'r map cyfeirio |
| Alan Davies [Gweinyddwr]16/11/2008 23:57:29 |
| Sori dr w am beidio a dod nol i ti'n gynt. Creais mind map gyda iMindMap gan Tony Buzan (demo) a chreu imagemap ohono gyda MapDesignerPro (demo). Ni fyddwn yn awgrymu gwneud e fel hyn. Mae MindMap5 o ConceptDraw (a iMindMap dwi meddwl) yn allforio i HTML, gan gynnwys dolenni ar y nodau. 'Arbrawf' gyda javascript oedd y map cyfeirio. |