WETWORK

Corlan Adnoddau Arlein Cymraeg


Pecyn Podcast Generator

Mae PCG yn becyn sydd yn cynnal pod-ddarllediadau ar gyfer eich porthwr (feed) XML. Mae'r pecyn, a ysgrifenwyd gan Alberto Betella, yn cynnal amryw o fformatau sain a fideo ac mae chwaraewr sain (mp3) yn dod fel rhan ohono. Mae'n gymharol hawdd i sefydlu darn o wybodaeth a delwedd i fynd gyda'r bennod (episode) a'i gosod yn daclus. Hefyd mae modd i ddefnyddwyr danysgrifio i'ch pod-ddarllediadau trwy iTunes neu'ch gwefan. Mantais mawr yn y system hon yw nid oes angen databas i gadw'r data, felly dim ffwdan gyda MySQL.

Pecyn

Gallwch lawrlwytho'r pecyn o fan hyn, er mae'r dudalen gallu bod yn araf (iawn) i'w llwytho.

Ffeiliau Iaith

Gallwch ddod o hyd at y ffeiliau iaith o fan hyn.

Arddangosiad

Am arddangosiad, gallwch weld sampl syml dros ben yma.

Mae Alberto wedi rhyddhau fersiwn 1.1 yn ddiweddar a dyma'r ffeiliau rwyf wedi'u cyfieithu. Gorffennais y gwaith hwn yn ddiweddar felly 'dwi ddim yn meddwl bydd e wedi'u cynnwys eto. O ganlyniad, gallwch lawrlwytho'r ffeiliau a'u gosod i'r ffolderi priodol (cy.php i ffolder language a setup_cy.php i ffolder setup/lang). Dylech hefyd ychwanegu llinellau i'r ffeil, podcastgen_languages.xml o dan y ffolder components/podcastgen_languages, fel hyn:


delwedd yn dangos y newid i'r ffeil


Dyma ddelwedd o'r rhyngwyneb:

llun o podcastgen ar waith