Golygydd WYSIWYG Spaw 2
Mae'r dudalen hon yn cael ei datblygu. Barod erbyn 24/9/2008.
Mae Spaw 2 yn becyn sydd yn eich caniatáu i osod cynnwys HTML i'ch gwefan trwy'ch gwefan. 'A felly?' dwi'n eich clywed yn dweud. Tan yn ddiweddar, roedd yn rhaid creu eich tudalennau gyda'r cod HTML ar eich cyfrifiadur ac yna ei lwytho trwy FTP. Nid bellach, mae sawl golygydd testun ar gael sydd yn eich caniatáu i newid cynnwys o unrhywle, dim ond wrth fyned i'ch gwefan. Rydych yn sicr o fod wedi dod ar draws rhai o'r pecynnau hyn os ydych yn blogio.
Y mantais i hyn yw'r ffaith gallwch fewnosod dolenni, delweddau, fideos, amrywiaeth o fformatau testun ayyb.
Gwell na'r lleill?
Fel y soniwyd mae sawl golygydd testun WYSIWYG arlein i gael, gan cynnwys TinyMCE, a FCKeditor. Un peth sydd yn gyffredin iddynt yw eu bod yn becynnau ffynhonnell agored - wel, bron â bod. Dyma'r broblem, os ydych am y swyddogaethau defnyddiol, e.e. rheolwr ffeiliau (file manager), bydd angen prynu'r fersiwn masnachol. Mae Spaw 2 yn wahanol o ran hyn, mae'r rheolwr ffeiliau'n dod yn rhad ac am ddim gyda'r prif becyn.
Pecyn
Gallwch lawrlwytho'r pecyn o fan hyn.
Ffeiliau Iaith
Gallwch ddod o hyd at y ffeiliau iaith o fan hyn.
Arddangosiad
Am arddangosiad, gweler isod. Mae'r llwythwr ffeiliau wedi'i analluogi (am resymau diogelwch!). Wrth bwyso'r botwm ar ôl llenwi HTML, caiff dudalen dros dro ei dangos: