Defnyddio XHTML - Cyflwyniad
Canllawiau XHTML
- Cyflwyniad
- Rhan 1: strwythur
- Rhan 2: tagiau cyffredin
Beth yw XHTML?
HTML yw'r lingua franca ar gyfer cyhoeddi testun ar y we. Gallwch ei greu a'i brosesu gan rywbeth mor syml â golygydd testun fel Notepad. Mae HTML yn defnyddio tagiau fel
ac
i osod testun mewn i benawdau, paragraffau, rhestri, dolenni ayyb.
Mae XHTML (eXtensible HyperText Markup Language) yn deulu o fathau o ddogfennau a modiwlau sy'n ymestyn HTML, trwy XML. Mae sawl blas o XHTML, ond yr un mwyaf poblogaidd efallai ar hyn o bryd yw XHTML Transitional 1.0, a felly dyma'r un byddaf yn defnyddio trwy'r holl enghreifftiau.
Rhai eraill sy'n bodoli yw, Strict 1.0, Frameset 1.0, XHTML 1.1 ac XHTML 2.0.
Sut ydy HTML ac XHTML yn wahanol?
I fod yn hollol onest, nid oes cymaint â hynny'n wahanol ar gyfer defnydd sylfaenol. Y prif gwahaniaethau fel rydw i'n eu gweld yw'r canlynol:
- Mae angen newid hen dagiau sengl i dagiau hunan-gloi, e.e.
i
i
i
i
. - Mae angen trefn taclus i dagiau, e.e. o'r blaen roedd hwn yn bosib,
. Nid nawr, mae'n rhaid ffurfio XHTML yn hollol gywir:
- Mae angen gosod gwerthoedd mewn dyfynodau, e.e.
yn gorfod cael ei osod fel